News

Mae Jisc yn disgleirio sbotolau ar arloeswyr digidol Cymreig i helpu eraill ar eu taith at Ddigidol 2030

Mae ein hadroddiad newydd yn amlygu sut mae cydweithio ar draws y sector addysg ôl-16 yn gallu arwain at fentrau digidol llwyddiannus.

I gynorthwyo darparwyr addysg ôl-16 yng Nghymru ar eu taith at Ddigidol 2030, mae adroddiad newydd gan Jisc ac astudiaethau achos cysylltiedig yn amlinellu'r defnydd cydweithredol llwyddiannus o offer a thechnoleg digidol yn y sector.

Mae'r astudiaethau achos [AN1] yn amlygu beth sy'n bosibl pan fydd cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd i harnesu pŵer digidol mewn addysg, ac yn darparu syniadau, awgrymiadau a chynghorion arloesol i sefydliadau gan arbenigwyr ar draws y sector.

Dywedodd Marian Jebb, pennaeth ansawdd ôl-16 yn Llywodraeth Cymru:

"Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn annog cydweithio yn weithredol ar draws y sector ôl-16. Bydd hyn ond yn dod yn bwysicach fyth wrth inni symud tuag at ddiwygiadau addysg drydyddol yng Nghymru; rydym yn awr un flwyddyn yn unig i ffwrdd o'r Comisiwn ar gyfer Addysg ac Ymchwil Trydyddol newydd, fydd yn dod â llawer o gyfleoedd ar gyfer gwaith partneriaeth a rhannu ymarfer da.

"Mae gwaith cydweithredol i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu yn un o'n prif flaenoriaethau ar gyfer datblygu dysgu digidol. Rwy'n falch iawn o weld yr enghreifftiau hyn o ymarfer arloesol wedi'u tynnu o bob rhan o'r sector, ac yn enwedig y ffactorau llwyddiant sy'n drosglwyddadwy i unrhyw brosiect. Mae ein diolch i Jisc a phawb o'r rheini a rannodd eu profiadau."

Dywedodd Alyson Nicholson, cyfarwyddwr Jisc yng Nghymru:

"Mae'r prosiect hwn yn amlygu gwerth cymuned a chydweithio, gan arddangos pŵer arbenigedd ar y cyd er budd ein dysgwyr a'n sector.”
“Hoffwn i ddweud diolch enfawr i'r rheini sydd wedi rhannu eu profiadau hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen at ddathlu llwyddiant hyd yn oed rhagor o gydweithrediadau wrth i ni symud ymlaen tuag at gyflawni gweledigaeth Digidol 2030 ac ateb her y gweinidog dros addysg a'r iaith Gymraeg Galwad i Weithredu.”

Mae'r astudiaethau achos yn cael eu tynnu o addysg bellach (AB), chweched dosbarthiadau, Addysg uwch (AU), dysgu yn seiliedig ar waith, a dysgu cymunedol gan ddilyn egwyddorion arloesi, cydweithredu, cydgynhyrchu a phartneriaeth gymdeithasol, ac yn cynnwys:

  • Diemyntau Digidol: cymuned weithredol Gymreig o ymarfer sy'n helpu ymarferwyr a rheolwyr i ddarparu llythrennedd digidol Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) ar draws addysg a hyfforddiant ôl-16.
  • Educ8 a CEMET (Prifysgol De Cymru): yn datblygu adnoddau realiti rhithwir ar gyfer dysgu wedi'i seilio ar waith trwy ymagwedd gydweithredol ag AU a chyflogwyr.
  • Growing Comms: sefydlu mannau dysgu gweithredol cysylltiedig mewn AU ac AB trwy gydweithio ar draws sectorau.
  • St David’s WeConnect: cydweithio rhwng chweched dosbarthiadau i ddarparu cwricwlwm ehangach trwy ystafelloedd dosbarth rhithwir.
  • Target Tracker: colegau yn cydweithio i ddatblygu offer digidol i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion ychwanegol.
  • Urdd Gobaith Cymru a'r Cynllun Gwreiddio (Coleg Cymraeg Cenedlaethol): datblygu sgiliau iaith Gymraeg trwy ddysgu cydweithredol i brentisiaid a staff addysgu.

Am ragor o wybodaeth ar sut mae Jisc yn gallu cynorthwyo'ch sefydliad â Digidol 2030, cysylltwch â'ch rheolwr perthnasoedd Jisc.

Cafodd y gwaith hwn ei gomisiynu a'i gyllido gan Lywodraeth Cymru.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English.